Dylunio gwefan Potiau hufen iâ clasurol Jariau saws hufen iâ Jariau saws hufen iâ Buwch arddangosfa!

Môn ar Lwy

Cwmni bach Hufen Iâ crefft yw Môn ar Lwy sydd wedi eu lleoli ar Ynys Môn. Rydym wedi gweithio gyda nhw ers rhai blynyddoedd ac wedi dylunio’r brand, y cyfres classurol o botiau hufen iâ ac yn fwy diweddar y potiau moethus sydd yn targedu cynulleidfa newydd.

Gwaith

Dylunio ac Argraffu / Gwe / Brandio / Pecynnu

Yn Ôl

Cysylltu â Ni

I sgwrsio am eich prosiect cyffrous….

01286 882561
[email protected]

10 Heol y Dŵr, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6LR

Anfon

Pwy yw Gringo?

Rydyn ni’n gwybod… mae’n enw rhyfedd ar gwmni o Gymru. Roedd sefydlwr Dylunio Gringo, Justin Davies, wedi teithio’r byd a gweithio dramor. Roedd o’r farn fod ‘gringo’ yn addas i gwmni newydd oedd am sefyll allan, arloesi a bod yn wahanol. Mae hefyd yn helpu fod y gair yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg.

Rydyn ni wedi ein lleoli yng nghalon Eryri ac yn helpu busnesau i gyrraedd eu nod mewn dylunio a marchnata ers dros 10 mlynedd. Credwn yn gryf y gall cyfathrebu effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg hybu llwyddiant eich cwmni yng Nghymru, gwlad sydd bellach yn enwog oherwydd ei chynnyrch o safon.

Os oes gennych brosiect hoffech ei drafod gyda ni, o frandio, dylunio gwe a phecynnu bwyd i bopeth yn y canol, cysylltwch gan ddefnyddio ein manylion isod, neu galwch mewn i’r stiwdio am baned a sgwrs.